BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Strategaeth Wres i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar ein strategaeth wres i Gymru. Ein nod yw datblygu system wres wedi’i datgarboneiddio sy'n cyflawni ein huchelgeisiau sero net.

Rydym yn ymgynghori ar 6 amcan:

  • Ein fframwaith galluogi - cefnogi pontio teg.
  • Ein rhwydweithiau ynni - llunio dyfodol y cyflenwad gwres.
  • Ein cartrefi - cynhesrwydd fforddiadwy i bawb.
  • Ein busnes - cefnogi ein heconomi leol i ffynnu.
  • Ein diwydiant - meithrin arloesedd a buddsoddiad.
  • Ein gwasanaethau cyhoeddus - arwain drwy esiampl.

Ymgynghoriad yn cau 8 Tachwedd 2023.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Strategaeth Wres i Gymru | LLYW.CYMRU 

Cofrestrwch ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd, ac ymrwymo i gamau cadarnhaol a fydd yn helpu eich busnes i leihau ei ôl troed carbon ac effeithio ar yr amgylchedd gan sicrhau perfformiad cynaliadwy ar yr un pryd. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.