Mae aflonyddu rhywiol yn rhan o ddiwylliant ehangach, di-baid o drais rhywiol a chasineb at ferched. Nid yw’n weithred ddi-nod y dylid ei derbyn fel rhan anochel o fywyd bob dydd.Mae’n broblem fyd-eang ac mae gwahanol rannau o’r byd yn delio â hi mewn gwahanol ffyrdd. Mae gennym gyfle i fynd i’r afael â’r broblem hon o ddifrif er mwyn gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i weithio, byw a chymdeithasu.
Mae TUC Cymru wedi gweithio’n agos gyda Cymorth i Ferched Cymru i ddatblygu pecyn cymorth ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
Bydd y pecyn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar gynrychiolwyr undebau i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle a’i atal rhag digwydd.
Lawr lwythwch y pecyn cymorth i ddarganfod gwybodaeth a chanllawiau i’ch helpu i wneud y canlynol:
- Nodi aflonyddu rhywiol yn y gweithle a chynnig cymorth effeithiol i’r rhai sy’n ei ddioddef
- Deall y gyfraith mewn cysylltiad ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle
- Cynnal sgyrsiau a thrafodaethau â chyflogwyr ar ran aelodau sydd wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn y gweithle
- Gwneud yn siŵr bod cyflogwyr yn cyflawni eu cyfrifoldeb cyfreithiol i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle
- Ymgyrchu dros agwedd dim goddefgarwch at aflonyddu rhywiol yn y gweithle drwy amrywiaeth o fesurau ataliol
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol:
Mae bod yn gyfrifol o fewn y gweithle yn golygu gwneud mwy na dim ond y gofynion cyfreithiol safonol i ddarparu gweithle diogel ac iach ar gyfer gweithwyr. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen canlynol Creu gweithle cadarnhaol | Drupal (gov.wales)