BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sut i gyflogi pobl o Wcráin

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyflogi pobl sydd wedi'u dadleoli o Wcráin yn dilyn yr ymosodiad gan Rwsia. Mae mynediad at gyflogaeth yn bwysig i bobl o Wcráin wrth iddynt adeiladu bywydau newydd yng Nghymru. Mae cyflogi pobl o Wcráin hefyd yn rhoi mynediad i gyflogwyr yng Nghymru at dalent, sgiliau, a phrofiad i helpu eu sefydliadau.

Caiff pobl sy'n cyrraedd o Wcráin o dan Gynllun Cartrefi i Wcráin a Chynllun Teuluoedd o Wcráin weithio a chael budd-daliadau yn y DU am oes eu fisa. Fe allai pobl eraill o Wcráin sydd yng Nghymru fod â statws cyfreithiol gwahanol. Gweler gwybodaeth am edrych ar fanylion hawl ymgeisydd i weithio

Os ydych yn dymuno recriwtio pobl o Wcráin, cofrestrwch eich diddordeb gyda Llywodraeth Cymru. Cewch hefyd gofrestru eich diddordeb â Llywodraeth y DU.

Os dymunwch gefnogi pobl o Wcráin sy’n chwilio am waith, gall cynllun gwasanaeth Cymru'n gweithio  ddarparu cyngor arbenigol ar yrfaoedd a chefnogaeth i gyflogaeth, y cwbl wedi’i deilwra i’r unigolyn. Mae’r gwasanaeth am ddim i bawb dros 16 oed sy’n byw yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Sut i gyflogi pobl o Wcráin | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.