BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Symud Cymru i Lefel Rhybudd 3: Y Prif Weinidog yn nodi’r cynlluniau ar gyfer llacio cyfyngiadau COVID ymhellach

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi o ddydd Llun 12 Ebrill y bydd modd llacio’r cyfyngiadau fel a ganlyn:

  • Gall yr holl siopau sy'n weddill ailagor, gan gwblhau’r broses o ailagor siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn raddol.
  • Gall yr holl wasanaethau cysylltiad agos sy'n weddill agor, gan gynnwys gwasanaethau symudol.
  • Bydd cyfyngiadau teithio ar deithio i mewn ac allan o Gymru yn cael eu codi. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin heb esgus rhesymol yn parhau. Mae'r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon.
  • Gall ymweliadau i gael gweld lleoliadau priodas ailddechrau drwy apwyntiad.

Bydd rhagor o lacio ar y cyfyngiadau yn ystod yr wythnosau nesaf, cyhyd ag y bo’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn yr adolygiad teirwythnosol nesaf o’r rheoliadau coronafeirws ar 22 Ebrill.

Ddydd Llun 26 Ebrill:    

  • Byddai atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor.
  • Bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailddechrau, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch o dan do yn parhau i fod ar gau, heblaw ar gyfer bwyd i’w gludo oddi yno.
  • Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun 3 Mai).
  • Gellir cynnal derbyniadau priodasau yn yr awyr agored, ond byddant hefyd wedi’u cyfyngu i 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun 3 Mai)

Ddydd Llun 3 Mai (ddydd Llun 10 Mai yn wreiddiol):

  • Caiff campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff.
  • Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig unwaith eto, a fydd yn galluogi dwy aelwyd i gwrdd a chael cyswllt o dan do.

Ar ôl 17 Mai, byddant yn ystyried galluogi lletygarwch dan do, a'r llety ymwelwyr sy'n weddill i ailagor, cyn Gŵyl Banc y Gwanwyn ddiwedd mis Mai.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.