BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Taliadau Costau Byw o Wanwyn 2023 ymlaen

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi cyhoeddi mwy o fanylion am amserlen dalu’r cylch nesaf o gymorth â chostau byw.

Bydd yr arian i bobl sy’n hawlio budd-daliadau ar sail prawf modd, gan gynnwys pobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a chredydau treth, yn dechrau yn y Gwanwyn ac fe’u telir yn uniongyrchol i gyfrifon banc fesul tri thaliad dros gyfnod y flwyddyn ariannol. 

Bydd union ffenestri’r taliadau’n cael eu cyhoeddi yn nes at yr amser, ond maent wedi’u hymestyn dros gyfnod hirach i sicrhau cynnig cymorth cyson trwy gydol y flwyddyn. Bydd y rhain fel a ganlyn, yn fras: 

  • £301 – Taliad Costau Byw Cyntaf – yn ystod gwanwyn 2023
  • £150 – Taliad Anabledd – yn ystod haf 2023
  • £300 – Ail Daliad Costau Byw – yn ystod hydref 2023
  • £300 – Taliad Pensiynwyr – yn ystod gaeaf 2023/4
  • £299 – Trydydd Taliad Costau Byw – yn ystod gwanwyn 2024

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Miliynau o aelwydydd ar incwm isel i gael Millions of low-income households to get new Cost of Living Payments from Spring 2023 - GOV.UK (www.gov.uk)

Gwyddom fod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddwyn yr holl adnoddau ymarferol a’r cymorth y mae eu hangen i addasu ac ymdopi yn wyneb cost cynyddol gwneud busnes – mewn un man. Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales)



 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.