Mae Hunanasesu yn system y mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ei defnyddio i gasglu treth incwm.
Fel arfer, caiff treth ei didynnu’n awtomatig o gyflogau a phensiynau. Rhaid i bobl a busnesau ag incwm arall (gan gynnwys grantiau a thaliadau cymorth COVID-19) ei nodi ar ffurflen dreth.
Y dyddiad cau i gwsmeriaid gyflwyno eu ffurflen dreth ar-lein a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 yw 31 Ionawr 2024. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Talu'ch bil treth Hunanasesiad: Trosolwg - GOV.UK
Os yw cwsmeriaid yn meddwl nad oes angen iddynt lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, dylent roi gwybod i CThEF cyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2024, er mwyn osgoi unrhyw gosbau neu’r angen iddynt lenwi ffurflen dreth.
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) cyn gynted â phosibl os ydych chi:
- wedi methu dyddiad cau ar gyfer treth
- yn gwybod na fyddwch chi’n gallu talu bil treth yn brydlon.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd: Trosolwg - GOV.UK (www.gov.uk)