Mae tîm a sefydlwyd yn ddiweddar yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu archwilio dros 800 o ffermydd yn 2024 i liniaru effaith llygredd amaethyddol.
Mae’r fenter, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys asesiadau trylwyr o ffermydd ar draws Cymru i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (CoAPR).
Mae’r arolygiadau’n cwmpasu pob agwedd ar CoAPR, gan gynnwys safonau adeiladu a chapasiti strwythurau silwair, gwrtaith solet a slyri, cyfrifiadau gofynnol, mapiau risg, cynlluniau nitrogen a chofnodion taenu.
Bydd ffermwyr bob amser yn cael rhybudd rhesymol, yn ysgrifenedig fel arfer, cyn unrhyw arolygiadau cydymffurfio arfaethedig yn datgan beth fydd swyddogion am ei arolygu. Yr unig dro y byddai swyddogion yn galw heb rybudd yw os byddent yn cael adroddiad am lygredd.
Am wybodaeth bellach, cliciwch ar y dolenni canlynol:
- Cyfoeth Naturiol Cymru / Tîm newydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu arolygu 800 o ffermydd
- Cyfoeth Naturiol Cymru / Ffermio
- Cyswllt Ffermio – eich helpu chi i yrru eich busnes yn ei flaen | Cyswllt Ffermio (llyw.cymru)
- Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr | LLYW.CYMRU