Dros yr haf, bydd yr Adran Busnes a Masnach (DBT) yn cynnal ail gyfres o drafodaethau bord gron ledled y DU ar gyfundrefn UKCA (Asesu Cydymffurfedd y DU).
Cynhelir digwyddiadau Caerdydd ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mercher, 2 Awst 2023 – Bore
- Dydd Mercher, 2 Awst 2023 – Prynhawn
- Dydd Iau, 3 Awst 2023 – Bore
Mae'r trafodaethau bord gron yn gyfle i fusnesau yng Nghymru dynnu sylw at unrhyw faterion a allai fod ganddynt o ran cyfundrefn farcio UKCA (mewnforion ac allforion), yn ogystal â chyfle i hwyluso datblygiad polisi pellach ar UKCA.
I drefnu’ch lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol UKCA Roundtables in August 2023 (office.com)
Ar ôl i chi gofrestru, bydd yr Adran Busnes a Masnach yn anfon gwahoddiad ffurfiol i gadarnhau presenoldeb, gyda manylion y lleoliad, agenda a chwestiynau i fyfyrio arnynt cyn y drafodaeth bord gron. Os na all yr Adran Busnes a Masnach ddarparu ar gyfer yr holl fynychwyr sydd â diddordeb, byddant yn ceisio trefnu cyfleoedd pellach i gyfrannu, gan gynnwys trwy ddigwyddiadau rhithwir.
Arolwg Costau Asesu Cydymffurfedd
Mae’r Adran Busnes a Masnach hefyd wedi agor arolwg busnes i ddeall costau asesu cydymffurfedd. Mae'r cwestiynau yn yr arolwg hwn ar wahân i'r trafodaethau bord gron. Os ydych chi'n cynrychioli busnes sy'n gweithgynhyrchu, mewnforio, dosbarthu neu werthu nwyddau a weithgynhyrchir, byddai’r Adran Busnes a Masnach yn gwerthfawrogi pe gallech chi lenwi hwn, hefyd. Ar ddiwedd yr arolwg, mae cyfle i roi adborth ar Asesu Cydymffurfedd y DU yn ei gyfanrwydd a'i weithredu.
Dylai gymryd tua 10 i 20 munud i lenwi’r arolwg. Os na allwch ateb pob cwestiwn yn yr arolwg hwn, gallwch anfon dolen yr arolwg ymlaen at gydweithwyr mewn rolau eraill i gwblhau'r cwestiynau heb eu hateb. Bydd yr arolwg ar agor o 13 Gorffennaf 2023 tan 3 Awst 2023.
I lenwi’r arolwg, cliciwch ar y ddolen ganlynol Department for Business and Trade | UKCA Business Survey