BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Trethi amgylcheddol, rhyddhadau a chynlluniau ar gyfer busnesau

Handshake, business deal

Mae trethi amgylcheddol yn annog eich busnes i weithredu mewn ffordd sy'n fwy ecogyfeillgar. Mae trethi a chynlluniau ar gyfer gwahanol fathau a meintiau busnes.

Efallai y cewch ryddhad neu gael eich eithrio rhag rhai trethi, er enghraifft:

  • rydych chi'n defnyddio llawer o ynni oherwydd natur eich busnes
  • rydych chi'n fusnes bach nad yw'n defnyddio llawer o ynni
  • rydych chi'n prynu technoleg ynni-effeithlon i'ch busnes

Gallwch dalu llai o dreth drwy wneud cais am gynlluniau i'ch helpu i ddangos eich bod yn gweithredu'n fwy effeithlon ac yn cynhyrchu gwastraff sy'n llai niweidiol.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Environmental taxes, reliefs and schemes for businesses: Overview - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae'r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r lleoedd o'u cwmpas. Trwy gofrestru ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd, Gofynnir i'ch busnes ymrwymo i un neu fwy o gamau cadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon ac effaith ar yr amgylchedd wrth sicrhau perfformiad cynaliadwy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.