Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) yn gofyn am safbwyntiau ar gynnig i gyflwyno trothwy newydd ar gyfer dod ag achosion gerbron yr Ombwdsmon Ynni, fel y gellir cynnwys defnyddwyr sy’n fusnesau bach.
Ar hyn o bryd, dim ond busnesau sydd â chontract ynni annomestig sy’n bodloni’r diffiniad o ddefnyddiwr perthnasol (y cyfeirir atynt gan Ofgem fel microfusnesau) sy’n cael defnyddio’r Ombwdsmon Ynni i dderbyn cymorth i ddatrys anghydfod rhwng y busnes a’i gyflenwr ynni.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion i:
- gyflwyno diffiniad newydd ar gyfer busnes bach yng Ngorchymyn 2008
- ehangu mynediad i wneud iawn i fusnesau sydd â hyd at 50 o weithwyr A
- throsiant blynyddol o £6.5 miliwn neu gyfanswm mantolen o £5 miliwn NEU
- lefel defnydd trydan blynyddol o 500,000 cilowat awr o drydan NEU
- lefel defnydd nwy blynyddol o 500,000 cilowat awr o nwy
Daw’r ymgynghoriad i ben am hanner dydd ar 31 Ionawr 2024.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: New threshold for businesses accessing the Energy Ombudsman - GOV.UK