BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Trysorwch eich arian parod ac ariannu twf

Mae angen i bob busnes twf uchel reoli arian parod. Mae’r rhan fwyaf o fusnesau’n llyncu arian parod, ond mae busnesau twf uchel yn ei draflyncu. Yn y rhan fwyaf o achosion, pan fydd busnesau’n methu, nid diffyg elw sydd ar fai ond y ffaith eu bod yn rhedeg allan o arian parod. Mae’r hen cliché yn wir, ‘arian parod yw einioes busnes’. 

Felly, trysorwch eich arian parod. Yn arbennig, ffrwynwch ef lle bynnag a phryd bynnag y gallwch. Er enghraifft:

  • Ceisiwch negodi rhandaliadau gyda chwsmeriaid – yn hytrach na chael eich talu ar ddiwedd contract neu ar ddiwedd bob mis. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd rhaid i chi dalu is-gontractwyr – pam dylech chi orfod sicrhau ‘llif arian’ ar gyfer prosiect?
  • Nodwch yn bendant pryd mae taliad yn ddyledus. Nodwch ddyddiad penodol. Beth yw ystyr taliad yn ddyledus ymhen 30 niwrnod? 30 niwrnod ar ôl i chi anfon yr anfoneb, 30 niwrnod ar ôl iddi gael ei derbyn gan Adran Gyfrifon y cwsmer?
  • Neilltuwch adnodd penodol. Un unigolyn a fydd yn mynd ar ôl taliadau’n ddygn. Peidiwch â gofyn i’ch gwerthwyr wneud hyn – fyddan nhw ddim! Neu byddan nhw’n ei wneud yn wael – neu’n niweidio’r berthynas â’r cwsmer yn y pen draw (fel arfer, nid y sawl sy’n gosod yr archeb yw’r sawl y mae angen i chi ofyn iddo am y taliad – gallai pwyso ar y cyntaf fod yn wrthgynhyrchiol).
  • Cynhaliwch wiriadau credyd ar gyfer cwsmeriaid newydd. Peidiwch â chael eich twyllo! Roedd cyn Arlywydd Unol Daleithiau America, Ronald Reagan, yn hoff o ddyfynnu’r hen ddihareb “Ymddiried – ond cadarnhau” wrth ddelio â’r hen Undeb Sofietaidd. Fe ddylai’ch ymagwedd chi fod yn debyg wrth ddelio â chwsmeriaid newydd sy’n gofyn am delerau credyd.
  • Gweithredwch brosesau clir ar gyfer mynd ar ôl cyfrifon sy’n orddyledus.
  • Rhowch derfyn ar gyflenwi’r nwyddau (neu’r gwasanaeth) os nad ydynt yn talu!
  • Os byddwch yn penderfynu rhoi terfyn ar gyflenwi, rhowch wybod i’r defnyddiwr, nid dim ond yr Adran Gyfrifon. Fe allech synnu pa mor gyflym mae’r taliad yn dilyn!
  • Cynhyrchwch ragolygon llif arian rheolaidd, wedi’u diweddaru – Arfog, a gaffo rybudd! Mae hefyd yn gwneud argraff dda ar y Rheolwr Banc.
  • Cadwch mewn cysylltiad rheolaidd â’ch banc. Rhannwch eich rhagolygon â nhw. Dydyn nhw ddim yn hoffi sefyllfaoedd annisgwyl – felly peidiwch â’u rhoi iddynt.
  • Trysorwch eich arian parod. Peidiwch â gadael i ddiffyg arian parod daflu busnes sydd fel arall yn llwyddiannus, h.y. sy’n dwyn elw, oddi ar y cledrau

Yn anorfod, bydd angen i gwmnïau twf uchel archwilio opsiynau ar gyfer ariannu ehangu. Ceisiwch gyngor arbenigol ar y materion hyn a gofynnwch i’ch hun – ydych chi eisiau cyllid ecwiti preifat? A yw cyhoeddi cyfrannau ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (AIM) yn uchelgais? A ydw i eisiau dyled?

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.