BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Wynebu’ch Ofnau

Bydd bron pawb sydd wedi llwyddo yn eu proffesiwn, eu gyrfa neu eu camp wedi gorfod goresgyn eu hofnau a’u pryderon mewnol. Bydd y rhain yn bersonol i chi a bydd angen i chi weithredu i’w goresgyn, neu bydd perygl iddynt eich dal chi’n ôl rhag yr hyn rydych chi am ei gyflawni. 

Yn aml, mae ofn yn emosiwn rydych chi’n ei greu yn eich meddwl ei hun ac mae’n aml yn deillio o ddiffyg hyder yn eich gallu i ymdopi â sefyllfaoedd neu bryder am y canlyniadau. Mae hyn yn arwain at bryder a meddyliau negyddol, sy’n rhwystr rhag cynnydd personol. Mae’r berw emosiynol sy’n cael ei greu gan ofn yn arafu’ch twf personol, yn gosod cyfyngiadau ar eich credoau ac yn arwain at berfformiad di-fflach a fydd yn eich atal rhag cyflawni eich nodau.

Bydd mynd i’r arfer o wynebu eich ofnau yn rhoi cyfle i chi brofi i chi’ch hun beth allwch ei wneud a bydd yn helpu i chi ryddhau eich meddyliau negyddol. Mae hyn yn caniatáu i chi symud ymlaen tuag at eich gweledigaeth. 

Bydd angen i chi gyflyru’ch meddwl i oresgyn yr ofnau sy’n eich dal chi’n ôl, trwy ddod i arfer â gwrando arnynt a’u cydnabod, ac yna cwestiynu pa mor real ydynt. Ar ôl i chi gymryd camau cadarnhaol i gofleidio’ch ofnau a’u goresgyn trwy brofi i chi’ch hun mai dim ond yn eich meddwl chi y mae’r rhain, mae unrhyw beth bron yn bosibl. 

 

“Feel the fear and do it anyway." Susan Jeffers

 

Ffactor Ofn 

Mae pob lliw a llun ar ofn. Gall yr ofn fod yn: 

  • Ofn methu oherwydd yr embaras y gallai arwain ato 
  • Ofn gallu darparu ar gyfer eich teulu 
  • Ofn siarad yn gyhoeddus 
  • Ofn trychineb ariannol 
  • Ofn colli eich swydd 

Gwaredwch yr ofnau hynny trwy: 

  • Orfodi eich hun i weithredu yn eu herbyn 
  • Darlunio’r canlyniad rydych chi am ei gael – nid y ffactor ofn 
  • Gofynnwch i chi’ch hun: pa mor real yw’r ofn? 
  • Gwasgarwch y gynulleidfa anweledig y mae ofn yn ei greu yn y meddwl 
  • Faint rydych chi am fod yn llwyddiannus? Os na allwch waredu’r ofn, siom fydd y canlyniad 

 

“To conquer fear is the beginning of wisdom.” Bertrand Russell     

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.