Wrth ddatblygu busnes neu yrfa mae'n rhaid i ni fod yn gwbl onest gyda ni'n hunain o ran yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'r hynny o adnoddau sydd ar gael. Ar gyfer ein datblygiad personol, rhaid inni bob amser gredu y gallwn ni sicrhau dyfodol mwy a gwell, ond rhaid cydbwyso hyn gyda’n hunanymwybyddiaeth.
Mae gan enillwyr ffordd wych o wirio'r hyn sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd y nod, ac mae deall ein cryfderau a'n gwendidau a bod yn onest â ni'n hunain yn hanfodol. Rhaid bod yn onest am yr hyn sydd angen ei newid er mwyn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir - mae'n hanfodol nad ydym yn creu sefyllfa a fydd yn arwain atom yn methu.
Mae'r un egwyddor yn berthnasol wrth ddatblygu a thyfu busnes; weithiau mae'n rhaid i ni fod yn gwbl glir ynghylch ein bylchau o ran sgiliau a chymhwysedd. Yn rhy aml o lawer, rydyn ni'n claddu ein pen yn y tywod ac yn meddwl y bydd y broblem yn datrys ei hun maes o law - coeliwch chi fi, nid dyna fel mae hi. Dim ond trwy gymryd camau ac unioni'r hyn sy'n anghywir y gall newid ddigwydd. Os nad ydych chi'n rhy hoff o wneud y cyfrifon, yna chwiliwch am gyfrifydd medrus neu ewch ar gwrs. Mae'r un peth yn wir am unrhyw ran hanfodol arall o redeg busnes - gwerthiant, gweinyddu ac ati.
Wrth symud ymlaen, mae'n rhaid i ni wynebu'r ffeithiau moel – newidiwch y pethau sydd angen eu newid, neu fel arall, aros yn eich unfan wnewch chi ar y gorau. Mae ennill yn golygu gwneud y pethau iawn i gyflawni'ch dymuniadau. Weithiau mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anghyfforddus.
Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.