Bydd Wythnos Ailgylchu 2023 yn cael ei chynnal rhwng 16 a 22 Hydref 2023. Mae'n un wythnos y flwyddyn lle mae manwerthwyr, brandiau, cwmnïau rheoli gwastraff, cymdeithasau masnach, llywodraethau a'r cyfryngau yn dod at ei gilydd i gyflawni un nod: sef cymell y cyhoedd i ailgylchu mwy o'r pethau cywir, yn amlach.
Mae thema eleni - Yr Helfa Ailgylchu Fawr - yn canolbwyntio ar "bethau a gollwyd": yr eitemau y gellir eu hailgylchu ond sy'n aml yn cael eu colli yn y cartref.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol:
- Recycle Week | WRAP
- WRAP Cymru - Arbenigwyr Economi Gylchol ac Effeithlonrwydd Adnoddau
- Cymru yn Ailgylchu (walesrecycles.org.uk)
- Cymru yn Ailgylchu: Asedau ymgyrch Hydref 2023 Bydd Wych. Ailgylcha. | WRAP (wrapcymru.org.uk)
Cofrestrwch ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd, ac ymrwymo i gamau cadarnhaol a fydd yn helpu eich busnes i leihau ei ôl troed carbon ac effeithio ar yr amgylchedd gan sicrhau perfformiad cynaliadwy ar yr un pryd.