Cynhelir Wythnos Cydraddoldeb Hiliol rhwng 5 ac 11 Chwefror 2024, ac mae’n ymgyrch flynyddol ledled y Deyrnas Unedig (DU) a drefnir gan Race Equality Matters sy’n uno miloedd o sefydliadau ac unigolion i fynd i’r afael â’r rhwystrau rhag cydraddoldeb hiliol yn y gweithle.
Y thema eleni yw #GwrandoGweithreduNewid, a chafodd ei dewis gan gymuned Race Equality Matters.
Os yw pawb ohonom yn ymrwymo i #GwrandoGweithreduNewid, gall newid gwirioneddol ddigwydd.
Mae gan bawb ran i’w chwarae yn y frwydr dros gydraddoldeb hiliol yn y gweithle, o frig pob sefydliad hyd at y gwaelod.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Race Equality Week - Race Equality Matters
I ddarganfod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu Cymru wrth-hiliol, ewch i: Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol | LLYW.CYMRU