BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Cyflogaeth Ieuenctid 2023

Mae Youth Employment Week 2023 yn ddathliad o bopeth sy’n ymwneud â chyflogaeth ieuenctid, ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 30 oed, ac fe’i cynhelir rhwng 3 Gorffennaf a 7 Gorffennaf 2023. 

Y thema eleni yw ‘Cyfle i Bawb’, a’r nod yw cysylltu pobl ifanc â chyfleoedd a chymorth, a chodi ymwybyddiaeth o fanteision cyflogi pobl ifanc.

Gallwch gofrestru ar gyfer gweminarau am ddim sy’n agored i gyflogwyr a phobl ifanc.

Mae Youth Employment UK hefyd yn cynnig adnoddau am ddim ar arferion gorau wrth recriwtio, hyfforddi, cefnogi a datblygu pobl ifanc o fewn eich sefydliad. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch y ddolen ganlynol: Advice for Employers - Youth Employment UK

Os ydych chi’n 25 oed neu’n iau ac yn wynebu rhwystrau sy’n eich atal rhag dechrau busnes, yn chwilio am gyfleoedd newydd, neu os oes gennych syniad busnes gwych, gall Syniadau Mawr Cymru eich helpu.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.