Cynhelir Wythnos Dysgu yn y Gwaith rhwng 13 ac 19 Mai 2024.
Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn ddigwyddiad blynyddol unigryw i feithrin diwylliannau dysgu yn y gwaith. Ei nod yw tynnu sylw at bwysigrwydd a manteision dysgu a datblygiad parhaus.
Caiff Wythnos Dysgu yn y Gwaith ei harwain yn genedlaethol gan Campaign for Learning. Gwahoddir cyflogwyr i nodi Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn eu sefydliadau. Mae Campaign for Learning yn darparu’r adnoddau cynllunio, y gweithgareddau a’r syniadau i gydweithwyr a threfnwyr dysgu a datblygu ar gyfer cynnal ymgyrchoedd a digwyddiadau creadigol, arloesol a chynhwysol yn ystod Wythnos Dysgu yn y Gwaith.
Y thema yn 2024 yw ‘Grym dysgu’. Mae’n archwilio’r modd y mae dysgu gydol oes a dysgu parhaus yn rhoi grym i ni newid, tyfu a chyflawni ein nodau fel unigolion, tîm a sefydliad.
Ceir adnoddau cynllunio (planning resources) a chanllaw ysbrydoli (inspiration guide) i gael syniadau ar y gwahanol ffyrdd y gallwch chi gyflwyno’ch gweithgareddau i ymgysylltu â chydweithwyr a chyrraedd eich amcanion ar gyfer Wythnos Dysgu yn y Gwaith. Os ydych chi’n newydd i Wythnos Dysgu yn y Gwaith, dechreuwch yma (start here)!
I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen isod: Start Here (learningatworkweek.com)
Paratowch eich busnes trwy nodi bwlch sgiliau, datblygu sgiliau eich gweithle i sicrhau llwyddiant ac addasu’ch gweithle trwy gael cyflogeion medrus newydd.
Mae Sgiliau a Hyfforddiant yn darparu datblygiad a chymorth sgiliau i fusnesau, sydd hefyd yn amlygu meysydd y gallech eu gwella: Croeso i Recriwtio a Hyfforddi - am wybodaeth a chyngor ar gymorth recriwtio a hyfforddiant | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)