BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Elusennau Bach 2023

Cynhelir Wythnos Elusennau Bach rhwng 19 a 23 Mehefin 2023.

Trefnir yr wythnos fel cyfres o weithgareddau a mentrau i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o'r cannoedd a miloedd o elusennau bach sydd, bob dydd, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau bregus ledled y DU a gweddill y byd.

Amcanion Wythnos Elusennau Bach yw:

  • dathlu cyfraniad elusennau bach at gymunedau ledled y DU ac ar draws y byd
  • gwella gwybodaeth, cynrychiolaeth a chynaliadwyedd elusennau bach
  • tynnu sylw at waith y sector elusennau bach i'r gynulleidfa ehangaf bosibl
  • annog y cyhoedd i roi
  • gweithio gyda'r sector elusennau bach i ddatblygu ymgysylltiad gwleidyddol ar lefel genedlaethol a lleol

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol About | Small Charity Week

Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld fod y busnesau y maen nhw’n ymwneud â nhw yn gwneud yr un fath.

Mae yna sawl ffordd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol ac ar yr un pryd gadw eu cwsmeriaid yn hapus. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gweithio gyda’ch cymuned leol | Drupal (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.