BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Fawr Werdd 2023

Yr Wythnos Fawr Werdd yw dathliad mwyaf erioed y DU o weithredu cymunedol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a diogelu natur. 

Bob blwyddyn, mae pobl yn dod at ei gilydd i roi cefnogaeth enfawr i weithredu er mwyn diogelu'r blaned. Mae degau o filoedd o bobl ym mhob cwr o'r wlad yn dathlu'r camau calonogol, dewr, dyddiol sy'n cael eu cymryd i gefnogi natur a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Yn 2023, cynhelir yr Wythnos Fawr Werdd rhwng 10 a 18 Mehefin.

O wyliau i gemau pêl-droed, digwyddiadau casglu sbwriel i ysgrifennu llythyrau - mae rhywbeth i bawb yn ystod yr Wythnos Fawr Werdd.

Os ydych chi'n cynnal digwyddiad yn eich cymuned, cofiwch ei ychwanegu at y wefan. Bydd hyn yn helpu pobl eraill yn eich ardal leol i ddod o hyd i chi a bydd yn eich helpu i fod yn rhan o ddathliad cenedlaethol o weithredu cymunedol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd!

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol:

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r mannau o'u cwmpas. Cofrestrwch heddiw ar Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.