Cafodd Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 ei chynnal 4 i 8 Rhagfyr 2023 (i gyd-fynd â COP28 yn Dubai, 30 Tachwedd i 12 Rhagfyr 2023).
Cafodd yr wythnos ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2019 i ddod ag unigolion a sefydliadau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector at ei gilydd i ymuno mewn trafodaethau, rhannu’r gwersi maen nhw wedi’u dysgu, ysgogi syniadau newydd a chydweithio ar atebion er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Roedd Wythnos Hinsawdd Cymru yn cynnwys cynhadledd rithwir a rhaglen ategol o ddigwyddiadau ymylol. Canolbwyntiodd trafodaethau ar y ffordd rydyn ni’n mynd i’r afael â newid hinsawdd mewn modd teg a sicrhau ein bod yn adlewyrchu’r argyfwng costau byw yn y ffordd rydyn ni’n gweithredu.Os golloch chi’r gynhadledd rithiol, cafodd yr holl sesiynau eu recordio a gellir eu gwylio'n ôl drwy adran Ar Alw ar wefan Wythnos Hinsawdd Cymru. Hefyd, ewch i'r Wal Addunedau i ddysgu mwy am y camau y gallwch eu cymryd fel etifeddiaeth o'r digwyddiad eleni.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)