BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Hinsawdd Cymru 2022

Ein gwlad, ein hinsawdd, ein cydgyfrifoldeb.

Bydd yr Wythnos eleni’n cael ei chynnal yn union ar ôl COP27 (uwchgynhadledd ryngwladol nesaf ‘Cynhadledd y Partïon’ ar newid hinsawdd, yn yr Aifft rhwng 6 a 18 Tachwedd 2022). 

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru 2022, 21 i 25 Tachwedd, yn gyfuniad o ddigwyddiadau rhithiol ac wyneb yn wyneb, wedi'u trefnu i rannu arfer gorau a chefnogi ymrwymiad parhaus Cymru i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd yn gyfle i archwilio'r hyn y gallwn ni, fel unigolion, ei wneud i gyflawni sero net.

Gallwch ymuno â digwyddiad eleni ar-lein neu wyneb yn wyneb yn ein digwyddiadau ymylol a bod yn rhan o fudiad cynyddol, sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth. Byddwch yn rhan o'r drafodaeth, dysgwch am y datblygiadau diweddaraf ac elwa ar ddealltwriaeth a phrofiad academyddion blaenllaw, arbenigwyr a chymunedau sydd eisoes yn chwarae eu rhan i ddiogelu ein hamgylchedd ac addasu i'r newidiadau y byddwn ni i gyd yn eu profi yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Wythnos Hinsawdd Cymru | Hafan (gov.wales)

Byddem wrth ein bodd yn rhannu manylion Wythnos Hinsawdd Cymru â chynifer â phosibl o bobl, er mwyn i bobl a sefydliadau ledled Cymru allu cymryd rhan. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Wythnos Hinsawdd Cymru | Pecyn Cymorth i Randdeiliaid (gov.wales)

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.