BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023

Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru yn cael ei chynnal 4 Rhagfyr i 8 Rhagfyr 2023 (i gyd-fynd â COP28 yn Dubai, 30 Tachwedd i 12 Rhagfyr 2023). 

Cafodd yr wythnos ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2019 i ddod ag unigolion a sefydliadau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector at ei gilydd i ymuno mewn trafodaethau, rhannu’r gwersi maen nhw wedi’u dysgu, ysgogi syniadau newydd a chydweithio ar atebion er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn cynnwys cynhadledd rithwir a rhaglen ategol o ddigwyddiadau ymylol. Mae’n debyg y bydd trafodaethau’n canolbwyntio ar y ffordd rydyn ni’n mynd i’r afael â newid hinsawdd mewn modd teg a sicrhau ein bod yn adlewyrchu’r argyfwng costau byw yn y ffordd rydyn ni’n gweithredu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal sesiwn gynhadledd rithwir neu ddigwyddiad ymylol yn eich cymuned, neu os ydych yn trefnu eich digwyddiad eich hun ac am i’r digwyddiad hwn gael ei gyhoeddi ar galendr digwyddiadau Wythnos Hinsawdd Cymru, e-bostiwch newidhinsawdd@llyw.cymru

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Hafan | Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 (gov.wales)

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.