BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2023

O 6 i 12 Chwefror 2023, bydd ysgolion, teuluoedd a chymunedau ledled y DU yn cymryd rhan yn Wythnos Iechyd Meddwl Plant. Thema eleni yw ‘Beth am Gysylltu’.

Mae ‘Beth am Gysylltu’ yn ymwneud â gwneud cysylltiadau ystyrlon i ni gyd, yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant – a thu hwnt.

Pan fydd gennym gysylltiadau iach – â theulu, ffrindiau a phobl eraill – gall hyn gynorthwyo ein hiechyd meddwl a’n hymdeimlad o les. Bydd adnoddau rhad ac am ddim yn eich helpu i archwilio iechyd meddwl a lles gyda’r plant a’r bobl ifanc o’ch amgylch.

Gydag adnoddau ar gyfer:

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Wythnos Iechyd Meddwl Plant (childrensmentalhealthweek.org.uk)

Gweithio gyda’ch cymuned leol 

Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi’u cymuned leol ac maent eisiau gweld bod y busnesau y maen nhw’n delio â nhw yn cyfranogi lawn gymaint ac yn gwneud yr un peth.

Gall busnesu gyfrannu at eu hardal leol mewn llawer o ffyrdd, ac ar yr un pryd, cadw eu cwsmeriaid yn hapus. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru yma Busnes cyfrifol | Busnes Cymru (llyw.cymru)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.