BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Masnach Ryngwladol 2023

Logistics and transportation of Container Cargo ship and Cargo plane with working crane bridge in shipyard at sunrise

Mae'r Wythnos Masnach Ryngwladol (ITW) yn ôl rhwng 6 Tachwedd a 10 Tachwedd 2023.

Dan arweiniad yr Adran Busnes a Masnach (DBT), mewn partneriaeth â diwydiant, mae ITW yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer cwmnïau fel digwyddiadau, gweithdai a gweminarau.

P'un a ydych chi eisiau ennill eich contract allforio cyntaf neu ehangu eich gwerthiannau rhyngwladol presennol, bydd yr Wythnos Masnach Ryngwladol yn cynnwys rhywbeth i chi. Mae gweithgareddau'r wythnos ar gyfer cwmnïau o'r DU o bob maint a sector – p’un a ydynt yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau – y cyfan sydd ei angen arnoch yw diddordeb mewn tyfu eich busnes.

Yn ystod yr wythnos, bydd yr Wythnos Masnach Ryngwladol yn: 

  • datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau allforio,
  • arddangos y gefnogaeth eang sydd ar gael gan DBT a'i bartneriaid,
  • amlygu cyfleoedd allforio byd-eang,
  • esbonio manteision cytundebau masnach y DU, a’ch
  • galluogi i glywed gan arbenigwyr mewn masnach ryngwladol a siarad â nhw.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol  ITW 2023 (great.gov.uk)

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o gymorth, arweiniad a chyngor a all eich cynorthwyo ble bynnag yr ydych ar eich taith allforio. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddarganfod mwy Hafan | Busnes Cymru - Allforio (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.