Mae'r Wythnos Masnach Ryngwladol (ITW) yn ôl rhwng 11 a 15 Tachwedd 2024.
Dan arweiniad yr Adran Busnes a Masnach (DBT), mewn partneriaeth â diwydiant, mae ITW yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer cwmnïau fel digwyddiadau, gweithdai a gweminarau.
P'un a ydych chi eisiau ennill eich contract allforio cyntaf neu ehangu eich gwerthiannau rhyngwladol presennol, bydd yr Wythnos Masnach Ryngwladol yn cynnwys rhywbeth i chi. Mae gweithgareddau'r wythnos ar gyfer cwmnïau o'r DU o bob maint a sector – p’un a ydynt yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau – y cyfan sydd ei angen arnoch yw diddordeb mewn tyfu eich busnes.
Yn ystod yr wythnos, bydd yr Wythnos Masnach Ryngwladol yn:
- datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau allforio,
- arddangos y gefnogaeth eang sydd ar gael gan DBT a'i bartneriaid,
- amlygu cyfleoedd allforio byd-eang,
- esbonio manteision cytundebau masnach y DU, a’ch
- galluogi i glywed gan arbenigwyr mewn masnach ryngwladol a siarad â nhw.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Events – UK Export Academy (great.gov.uk)
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o gymorth, arweiniad a chyngor a all eich cynorthwyo ble bynnag yr ydych ar eich taith allforio. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddarganfod mwy Hafan | Busnes Cymru - Allforio (llyw.cymru)