BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Prentisiaethau 2024

Female apprentice

Cynhelir yr Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau rhwng 5 a 11 Chwefror 2024. 

Nod yr wythnos hon yw dathlu a hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd. a'r buddion a ddaw yn eu sgil i unigolion a chyflogwyr.

Os oes gennych chi neu unrhyw un o fewn eich rhwydwaith unrhyw gyfleoedd prentisiaeth ar y gweill, yna byddem yn eich annog i'w hychwanegu at y Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag dros yr wythnosau nesaf, 

Y ffordd hawsaf i ychwanegu prentisiaeth wag yw mynd i Chwilio am brentisiaeth wag | Apprenticeships cy (llyw.cymru) a sgrolio i lawr, lle ceir botwm 'Rheoli Prentisiaethau'. Yma, gallwch gofrestru fel cyflogwr prentisiaid ac ychwanegu unrhyw brentisiaethau gwag i'r Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag.

I ddarganfod sut i recriwtio prentis a thrawsnewid eich busnes trwy sicrhau'r sgiliau sydd eu hangen arnoch nawr ac yn y dyfodol, ewch i dudalennau Busnes Cymru Recriwtio a Hyfforddi i gael mwy o wybodaeth. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.