BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen 2023

Businessman stressed out at work in casual office

Mae'r Gymdeithas Ryngwladol Rheoli Straen (ISMAUK) yn elusen gofrestredig a'r corff proffesiynol arweiniol ar gyfer rheoli straen personol a straen yn y gweithle, gan gefnogi iechyd meddwl, lles a pherfformiad da.

Cynhelir Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen 2023 rhwng 30 Hydref a 3 Tachwedd, ac mae'n ddigwyddiad blynyddol mawr sy'n canolbwyntio ar reoli straen ac ymgyrchu yn erbyn y stigma sy'n gysylltiedig â straen a materion iechyd meddwl.

Hanner ffordd drwy'r wythnos, cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth am Straen ddydd Mercher, 1 Tachwedd.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol International Stress Awareness Week  

P'un a ydych chi'n fusnes bach neu'n gorfforaeth fawr, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr atal straen yn gysylltiedig â gwaith i gefnogi iechyd meddwl da yn y gweithle. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyflogwyr - mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu gweithwyr rhag straen yn y gwaith | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.