BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Siarad Arian 2023

businessman and businesswoman accountants working together on pc

Wrth i ni adfer o bandemig Covid-19 a gyda phwysau costau byw presennol, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cael cefnogaeth i bryderon ariannol.

Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n siarad am arian:

  • yn gwneud penderfyniadau ariannol gwell â llai o risg
  • yn mwynhau perthnasau personol cryfach
  • yn helpu eu plant i ffurfio arferion arian da gydol oes
  • yn teimlo llai o straen a phryder, a’u bod â mwy o reolaeth.

Mae meithrin sgyrsiau am arian yn ein bywydau bob dydd hefyd yn ein helpu i fagu hyder ariannol a gwytnwch i wynebu beth bynnag a ddaw ar ein traws yn y dyfodol.

Mae’r wythnos, rhwng 6 a 10 Tachwedd 2023, yn gyfle i bawb gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ar draws y DU sy’n helpu pobl i gael mwy o sgyrsiau agored am eu harian - o arian poced i bensiynau - a pharhau â’r sgyrsiau hyn gydol y flwyddyn.

Rydym yn eich annog i ddefnyddio’r wythnos fel cyfle i siarad am unrhyw agwedd o arian.

Yr Wythnos Siarad Arian yma, rydym yn gofyn i bobl ‘Gwneud Un Peth’. Gofynnwch i’r bobl rydych yn eu cefnogi i ‘wneud un peth’ gallai helpu i wella eu lles ariannol, nawr neu yn y dyfodol.

Nid oes rhaid iddo fod yn enfawr. Gallai fod mor syml ag olrhain pensiwn coll, siarad â phlentyn am arian poced neu ddefnyddio un o'r teclynnau neu'r cyfrifianellau am ddim ar wefan HelpwrArian.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Wythnos Siarad Arian | Gwasanaeth Arian a Phensiynau (maps.org.uk)

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.