BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos y Beic 2024

Lon Las Cefni

Mae Wythnos y Beic 2024 yn cael ei chynnal rhwng 10 a 16 Mehefin, ac mae’n argoeli i fod hyd yn oed yn well ac yn fwy na 2023 pan fu dros 220 o fusnesau a sefydliadau ledled y DU yn cymryd rhan.

Mae gan sefydliadau ran bwysig i'w chwarae wrth ddatgarboneiddio'r economi a sicrhau bod targedau sero net yn cael eu cyrraedd. Ac er mai trafnidiaeth yw ffynhonnell unigol fwyaf allyriadau yn y DU o hyd, mae edrych ar sut yr ydym yn teithio o un lle i’r llall yn rhan bwysig o hyn. P’un ai wrth gymudo neu ar unrhyw daith fusnes arall, gall teithio llesol wneud cyfraniad sylweddol at leihau allyriadau. Ond nid yr amgylchedd yn unig sy’n manteisio yn sgil hyn; mae beicio’n hybu iechyd ac yn arbed arian i unigolion – ac mae’n gwneud synnwyr busnes hefyd.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Bike Week | Cycling UK

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r mannau o'u cwmpas. Cofrestrwch heddiw ar Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.