BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Ymddiriedolwyr 2022

Ymddiriedolwyr yw’r bobl sy’n gyfrifol am elusennau. Maen nhw’n chwarae rôl allweddol, yn gwirfoddoli eu hamser ac yn gweithio gyda’i gilydd i wneud penderfyniadau pwysig am waith yr elusen. Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i arddangos gwaith gwych yr ymddiriedolwyr a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael er mwyn i bobl o bob cefndir gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.

Bydd Wythnos Ymddiriedolwyr eleni yn cael ei chynnal rhwng 7 Tachwedd ac 11 Tachwedd 2022.

Bydd digwyddiadau ledled y wlad yn dathlu cyflawniadau’r ymddiriedolwyr, ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn elusen leol neu sefydliad gwirfoddol ar lefel bwrdd. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Wythnos Ymddiriedolwyr lle mae llawer o adnoddau dwyieithog ar gael.

I ddarganfod sut gall gweithio gydag elusennau fod o fudd i’ch busnes chi ewch i dudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.