BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y diweddaraf am Covid-19 i’ch busnes gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau a gwybodaeth amrywiol ar y coronafeirws a allai fod yn ddefnyddiol i’ch busnes.

Mae’n cynnwys:

  • Cadw pellter cymdeithasol yn y gweithle – mae cadw pellter cymdeithasol yn golygu cadw pobl ar wahân i helpu i leihau lledaeniad COVID-19
  • Lles gyrwyr – mae’n rhaid i safleoedd deiliaid dyletswydd lle mae’n llwytho a dadlwytho’n digwydd gymryd camau rhesymol i ddiogelu iechyd a diogelwch gyrwyr sy’n dosbarthu a chasglu
  • Glanhau eich gweithle – sut mae glanhau eich gweithle i leihau’r risg o’r coronafeirws

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ac am gyngor pellach am y Coronafeirws i fusnesau yng Nghymru ewch i wefan LLYW.CYMRU.

Bwrwch olwg ar dudalennau COVID-19 – Cymorth i Fusnesau Busnes Cymru i weld pa gyngor a chymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.