BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Gronfa Gweithredu Hinsawdd

Bydd y Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn helpu cymunedau ledled y DU i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd ac yn ceisio lleihau ôl troed carbon cymunedau. Bydd cymunedau yn dangos beth sy’n bosibl pan mae pobl yn cymryd yr awenau er mwyn mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Ardal: Ledled y DU.

Yn addas ar gyfer: Sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, elusennau, y sector cyhoeddus, gweithio mewn partneriaethau.

Maint yr ariannu: Hyd at £1.5 miliwn dros 2 i 5 mlynedd, gyda’r rhan fwyaf o brosiectau rhwng £300,000 a £500,000. Grantiau datblygu o £50,000 i £150,000 dros 12 i 18 mis.

Terfyn amser ymgeisio: Mae’r rhaglen ariannu natur a’r hinsawdd yn cau i geisiadau newydd ar 30 Mehefin 2023 am 12 canol dydd. Gallwch ymgeisio hyd at y dyddiad cau.

Gallwch o hyd ymgeisio am gyllid ynni a’r hinsawdd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Beth am ymuno ag Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru, sy’n rhoi ffordd ymarferol i fusnesau ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a’r llefydd o’u hamgylch ac ymuno â chymuned o sefydliadau blaengar sy’n tyfu.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.