Heddiw (16 Gorffennaf 2024), mae Bil i ddiwygio'r system trethi lleol yng Nghymru, gan gynnwys ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, wedi'i basio gan y Senedd.
Mae Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn sefydlu cyfres o newidiadau i wella'r systemau trethi. Bydd yn eu gwneud yn decach ac yn sicrhau eu bod yn gweithio'n well ar gyfer anghenion Cymru yn y dyfodol, gan sicrhau bod trethi lleol yn cyd-fynd yn fwy cyson ag amgylchiadau economaidd.
Ar gyfer ardrethi annomestig (a elwir hefyd yn ardrethi busnes), bydd y Bil yn gwneud y canlynol:
- cynyddu pa mor aml y caiff gwerthoedd pob eiddo annomestig yng Nghymru eu diweddaru i unwaith bob tair blynedd
- darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid rhyddhadau ac esemptiadau
- galluogi newidiadau wrth gyfrifo taliadau ar gyfer gwahanol gategorïau o dalwyr ardrethi
- dod â threfniadau osgoi treth hysbys i ben a chynyddu'r gallu i fynd i'r afael ag achosion o'r fath mewn ffordd fwy ymatebol yn y dyfodol
- galluogi gwelliannau i'r wybodaeth a ddarperir gan dalwyr ardrethi.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Y Senedd yn pasio Bil i ddiwygio'r system trethi lleol yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Ardrethi Busnes yng Nghymru
Mae Ardrethi Annomestig (NDR) hefyd yn cael eu galw'n ardrethi busnes, a threthi ydynt i helpu i dalu am wasanaethau lleol. Fe’u telir ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig: Ardrethi Busnes yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)