Pa un a ydych chi’n fusnes bach, canolig neu fawr, gall y tywydd effeithio arnoch chi mewn unrhyw le ac ar unrhyw adeg. Mae treulio amser yn cynllunio ac yn paratoi’ch busnes yn gallu arbed amser ac arian i chi pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le.
Gall pob busnes gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn barod am dywydd gwael. Er enghraifft:
-
cofrestru i gael rhybuddion o lifogydd
-
gosod systemau diogelu rhag llifogydd
-
gwneud yn siŵr fod eich polisi yswiriant yn cynnwys difrod y bydd tywydd yn ei achosi i’ch eiddo -
- gwnewch yn siŵr bod gennych chi yswiriant addas, mae’r Association of British Insurers yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol. Mae yswiriant eiddo masnachol yn hynod berthnasol
-
cael cynllun parhad busnes
-
gwneud copïau o'ch dogfennau yswiriant a gwybodaeth gyswllt bwysig
-
paratoi bag sy’n cynnwys eitemau hanfodol y gallwch gael gafael arno’n hawdd petai rhaid i’r adeilad gael ei wagio
Mae busnesau hefyd yn cael eu hannog i fod yn ymwybodol y gallai amodau tywydd gwael rwystro staff rhag teithio i’r gwaith. Felly, dylech werthuso’r risgiau a darparu atebion ar gyfer bod yn brin o staff ar adegau felly.
I gael rhagor o wybodaeth am baratoi ar gyfer argyfyngau, ewch i wefan:
- Stay safe in a storm - Met Office
- Cyfoeth Naturiol Cymru / Llifogydd (naturalresources.wales)
- Cyngor ar dywydd garw | LLYW.CYMRU
- How to plan ahead for flooding - Check for flooding - GOV.UK (check-for-flooding.service.gov.uk)
- Preparing for emergencies - GOV.UK (www.gov.uk)
- Travelling in storms, rain and strong wind - Met Office