BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymdopi gyda chostau byw cynyddol

Mae’r cynnydd diweddar yng nghostau byw wedi gwneud i nifer ohonom wynebu heriau annisgwyl.

Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod dros 12 miliwn o bobl nawr yn benthyg arian am fwyd neu filiau hanfodol ac mae hanner ohonynt yn gwneud hwn am y tro cyntaf yn eu bywydau. 

Mae’r canlyniadau’n dod wrth i’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) lansio ymgyrch newydd i gyrraedd pobl sy’n cael trafferth gyda phwysau costau byw, a fydd yn rhedeg yn unol â Help for Households y Llywodraeth y DU. 

Mae’n canolbwyntio ar wasaneth HelpwrArian MaPS, sy’n darparu arweiniad arian am ddim gan arbenigwr mewn ystod o fformatau gwahanol, fel ar-lein, gwesgwrs, WhatsApp a dros y ffôn.

Os ydych yn cael trafferth yn barod, neu’n poeni bod pethau’n mynd y ffordd honno, gall deimlo fel nad oes ffordd ymlaen. Fodd bynnag, y cam cyntaf i ddatrys problemau arian yw gwybod ble i droi. 

Ewch i wefan HelpwrArian Cymorth am ddim a diduedd gydag arian, wedi’i gefnogi gan y llywodraeth | HelpwrArian (moneyhelper.org.uk) a dewch o hyd i’r ffyrdd y gallwch gael help i gael rheolaeth o’ch arian.

Yma i gefnogi busnesau drwy'r argyfwng costau byw

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales)



 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.