BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgorffori Cynaliadwyedd Amgylcheddol i Lesiant yn y Gweithle

Boxes with recycling logo

Mae Cymru Iach ar Waith wedi cyhoeddi canllawiau newydd i gyflogwyr ynghylch cynaliadwyedd amgylcheddol, sy’n ymdrin â sut mae rheoli adnoddau naturiol yn gyfrifol er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Mae 'Ymgorffori Cynaliadwyedd Amgylcheddol i Lesiant yn y Gweithle' yn tynnu sylw cyflogwyr at sut y gall rheoli adnoddau mewn ffyrdd cyfrifol – lleihau gwastraff, hyrwyddo’r defnydd o ynni adnewyddadwy, a lleihau llygredd – fod o fudd i'w busnes, i’w gweithwyr, ac i’r blaned.

Cewch ddysgu am y cysylltiadau rhwng newid hinsawdd a chynaliadwyedd yn ogystal â dod o hyd i strategaethau ar gyfer arferion swyddfa gwyrdd, cludiant gweithredol, gweithio o bell, a dewisiadau bwyd cynaliadwy. Gall arferion busnes ecogyfeillgar leihau argyfyngau hinsawdd a meithrin gweithle iachach a mwy cynaliadwy. Mae dolenni i wybodaeth ac adnoddau ychwanegol i’w cael ar y wefan newydd hefyd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cymru Iach ar Waith: Cynaliadwyedd Amgylcheddol - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.