BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad Acas – Cod Ymarfer ar ymdrin â cheisiadau i weithio'n hyblyg

Mae Acas yn diweddaru ei God Ymarfer statudol ar ymdrin â cheisiadau i weithio'n hyblyg, i adlewyrchu'r diwygiadau disgwyliedig i ddeddfwriaeth, newid sylweddol mewn gweithio'n hyblyg yn y gweithle a newid barn ers i'w Cod presennol gael ei gyhoeddi yn 2014. Bydd eu canllawiau anstatudol hefyd yn cael eu diweddaru, sy'n cyd-fynd â'r Cod.

Nod y Cod yw rhoi esboniad clir o'r gyfraith i gyflogwyr, gweithwyr a chynrychiolwyr ar yr hawl statudol i ofyn am weithio'n hyblyg, ochr yn ochr â chyngor arfer da ar ymdrin â cheisiadau mewn modd rhesymol.

Croesewir cyfraniadau gan unrhyw unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb. Mae hyn yn cynnwys cyflogwyr, gweithwyr, undebau llafur, grwpiau sy'n cynrychioli busnesau, cynrychiolwyr cyfreithiol, ac unrhyw sefydliadau neu unigolion eraill sydd â diddordeb mewn arferion gweithio hyblyg a chysylltiadau cyflogaeth da.

Daw'r ymgynghoriad i ben am 11:59pm ar 6 Medi 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Acas consultation on the draft Code of Practice on handling requests for flexible working | Acas

Mae bod yn gyfrifol yn y gweithle yn golygu mynd y tu hwnt i'r gofynion cyfreithiol arferol i ddarparu gweithle diogel ac iach i weithwyr. Mae'n ymwneud â chreu amgylchedd gwaith cadarnhaol sy'n cydbwyso anghenion eich busnes ag anghenion gweithwyr unigol ac sy'n gwneud i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn dda am ddod i'r gwaith. I ddarganfod mwy, ewch i Creu gweithle cadarnhaol | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.