Ymgynghoriad yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar ddatblygiadau arfaethedig ar gyfer model gweithredu hylendid bwyd (FHDM) wedi’i foderneiddio.
Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf:
- Awdurdodau Cymwys – awdurdodau lleol
- busnesau bwyd a chyrff masnach y diwydiant
- sefydliadau sicrwydd trydydd parti ar gyfer diogelwch bwyd
- cyrff dyfarnu proffesiynol ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd yr amgylchedd a safonau masnach
- efallai y bydd gan Undebau Llafur a grwpiau arbenigol ddiddordeb hefyd.
Ym mis Medi 2022 cymeradwyodd Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd y prif bolisi a’r egwyddorion i werthuso llwyddiant ar gyfer FHDM wedi’i foderneiddio. Rydym nawr yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y datblygiadau arfaethedig canlynol:
- cynllun sgorio ymyriadau hylendid bwyd wedi’i foderneiddio
- dull wedi’i ddiweddaru sy’n seiliedig ar risg o ran yr amserlenni ar gyfer rheolaethau swyddogol cychwynnol mewn sefydliadau bwyd newydd, ac ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol priodol
- mwy o hyblygrwydd yn y dulliau a’r technegau rheolaethau swyddogol y gellir eu defnyddio i bennu lefel risg sefydliad, gan gynnwys, lle bo'n briodol, asesu o bell
- ehangu’r gweithgareddau y gall swyddogion, fel Swyddogion Cymorth Rheoleiddiol, nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd eu cyflawni, os ydynt yn gymwys.
Mae angen cyflwyno sylwadau a safbwyntiau erbyn 23:59 Dydd Gwener 30 Mehefin 2023.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Ymgynghoriad ar ddatblygu model gweithredu hylendid bwyd wedi’i foderneiddio yng Nghymru | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)