BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad ar fandad ar gyfer cerbydau di-allyriadau a rheoliadau ynghylch allyriadau CO2 ar gyfer ceir a faniau newydd yn y DU

Mae Llywodraeth Cymru yn eisiau glywed eich barn ynghylch rheoliadau newydd i osod targedau newydd a blynyddol ynghylch cerbydau di-allyriadau a fyddai’n berthnasol i geir a faniau ar draws y DU.

Bydd y mandad ar gyfer Cerbydau Di-allyriadau yn creu targedau ar gyfer ceir a faniau newydd na fyddant yn cynhyrchu unrhyw allyriadau o nwyon tŷ gwydr rhwng 2024 a 2030. Byddai’r mandad arfaethedig yn gweithredu fel cynllun masnachu o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

Dyma ymgynghoriad ar y cyd a gyhoeddir gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a’r Adran Seilwaith ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Ymgynghoriad yn cau: 24 Mai 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Ymgynghoriad ar fandad ar gyfer cerbydau di-allyriadau a rheoliadau ynghylch allyriadau CO2 ar gyfer ceir a faniau newydd yn y DU | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.