Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i geisio adborth gan randdeiliaid ar ganllawiau arferion gorau arfaethedig ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd sy’n darparu bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw.
Mae’r canllawiau hyn yn ymdrin â dehongli a chymhwyso’r ddarpariaethau alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw.
Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf:
- Gweithredwyr busnesau bwyd (FBOs), manwerthwyr, arlwywyr sefydliadol a gweithredwyr eraill sy’n darparu bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw (er enghraifft, bwyd rhydd)
- Awdurdodau gorfodi
- Cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd
- Unrhyw sefydliad neu berson arall sydd â buddiant mewn polisi gorsensitifrwydd i fwyd
Dyddiad cau: 27 Tachwedd 2024
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Ymgynghoriad ar ganllawiau arferion gorau - Gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)