BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyfiawnder Ieuenctid

Youths smiling

Mae Skills for Justice wedi'i gomisiynu gan Skills Development Scotland i gynnal adolygiad o gyfres Cyfiawnder Ieuenctid o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS). Mae dros ddeng mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol gael eu hadolygu a’u diweddaru ddiwethaf felly bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ddod â’r safonau i fyny i’r arfer presennol ac ymgorffori’r iaith gyfredol.

Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) yn disgrifio’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i wneud swydd benodol i lefel cymhwysedd a gydnabyddir yn genedlaethol.

Helpwch ni drwy gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn. Mae 24 NOS i'w hadolygu. Dim ond i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy'n berthnasol i'ch maes sy'n berthnasol i'ch rôl a'ch profiad o fewn y sector y mae angen ichi ymateb.

Ni ddylai fod yn hwy na 35 munud i'w gwblhau. Cyflwynwch eich arolwg wedi'i gwblhau cyn gynted â phosibl ac erbyn canol dydd dydd Mawrth 17 Rhagfyr 2024  fan bellaf: Youth Justice National Occupational Standards Consultation (Welsh)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.