BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgyrch yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer yr Hydref/Gaeaf

person looking puzzled at fridge contents

Fel rhan o waith Bwyd a Chi 2 – Cylch 6, mae’r adroddiad yn nodi’r newidiadau cyffredin yn yr hyn yr oedd yr ymatebwyr yn ei fwyta, sut y cafodd bwyd ei baratoi ac yn rhoi gwybod a oedd cynnydd mewn ymddygiad peryglus oherwydd diogeledd bwyd.

  • Roedd 31% wedi prynu bwyd gostyngedig/ar ddisgownt
  • Roedd 29% wedi paratoi bwyd i’w gadw fel bwyd dros ben / wedi coginio mewn sypiau 
  • Roedd 13% wedi cadw bwyd dros ben am gyfnod hirach cyn ei fwyta 
  • Roedd 12% wedi bwyta yn amlach bwyd a oedd wedi mynd heibio ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ 
  • Roedd 2% wedi newid y cyfnod amser neu’r tymheredd ar gyfer coginio eu bwyd

Mae’r ymgyrch hon yn cael ei lansio i roi cyngor i ddefnyddwyr a fydd yn canolbwyntio ar yr hanfodion diogelwch bwyd, dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’, toriadau trydan a llifogydd. 

Am gyngor diogelwch bwyd yn ystod toriadau trydan ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Diogelwch bwyd yn ystod toriad trydan: cyngor i ddefnyddwyr | Asiantaeth Safonau Bwyd 

Am gyngor diogelwch bwyd os bydd llifogydd ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Diogelwch bwyd ar ôl llifogydd | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)

Wedi coginio gormod o fwyd? I gael gwybodaeth am rewi, ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Oeri | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)

Ddylwn i olchi cyw iâr amrwd? Am wybodaeth, ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Campylobacter | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’ - Am wybodaeth ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Dyddiadau 'ar ei orau cyn' a 'defnyddio erbyn' | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.