BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yn Gefn i Chi

Apprentices

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn swyddi, sgiliau a hyfforddiant i helpu busnesau i dyfu a bodloni anghenion tirwedd economaidd newidiol Cymru er mwyn adeiladu dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach.

Rydym yn cefnogi ymgyrch "Yn Gefn i Chi" Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o sgiliau, rhaglenni cyflogadwyedd a chyngor sydd ar gael am ddim i bob busnes yng Nghymru. Mae hyn er mwyn sicrhau bod cymaint o fusnesau â phosibl yn cael mynediad at y cymorth ariannol a’r cyngor arbenigol sydd ar gael.

Gallwch gael cyngor arbenigol a chymorth ariannol os ydych yn datblygu, yn arallgyfeirio, neu os oes angen help llaw arnoch yn ystod y cyfnod anodd hwn:

  • Recriwtio staff a’u hyfforddi yn y sgiliau penodol sydd eu hangen arnoch (Prentisiaethau, ReAct+, GO Wales, Mynediad i Waith, Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol a Twf Swyddi Cymru +).
  • Uwchsgilio eich gweithlu er mwyn goroesi a datblygu’r busnes (Prentisiaethau a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru).
  • Cefnogi iechyd a lles eich gweithlu (Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, y Gwasanaeth Di-waith a Cymru Iach ar Waith).
  • Creu gweithlu tecach a mwy cynhwysol drwy atynnu, recriwtio a datblygu talent newydd (Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl a phecyn cymorth ar-lein, Hyderus o ran Anabledd, cyflogaeth mewnfudwyr AilGychwyn a phrentisiaethau cynhwysol).

Hefyd, o dan y Warant i Bobl Ifanc, mae Llywodraeth Cymru yn helpu busnesau i greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc o dan 25 oed i ymuno â’ch tîm drwy brofiad gwaith, lleoliadau gwaith neu gyflogaeth.

Ewch i Busnes Cymru am ragor o wybodaeth, neu ffoniwch 03000 6 03000 i siarad ag un o gynghorwyr Busnes Cymru. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.