BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yr Help Llaw Mawr

Mae’r Help Llaw Mawr (gwefan Saesneg yn unig) yn gyfle cenedlaethol i gael mwy o bobl i ymhél â gwirfoddoli drwy annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli rhagarweiniol ar ŵyl y banc 8 Mai 2023. Mae’r ymgyrch yn cael ei harwain gan nifer o elusennau’r DU, gan gynnwys yr NSPCC, y Groes Goch Brydeinig, y Sgowtiaid ac Ambiwlans Sant Ioan, ymhlith llawer o rai eraill.

Nod y diwrnod yw annog mwy o bobl i roi cynnig ar wirfoddoli drwy estyn help llaw yn eu hardal leol, a cheisio eu hysgogi i fynd ati i wirfoddoli yn yr hirdymor.

Bydd gwefan Yr Help Llaw Mawr (Saesneg yn unig) yn hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli ledled y DU ar eu gwefan ymlaen a bydd pobl sy’n chwilio am weithgareddau i gymryd rhan ynddynt yng Nghymru yn cael eu cyfeirio at blatfform Gwirfoddoli Cymru. Bydd y cynnydd hwn mewn traffig yn helpu i ennyn diddordeb mewn cyfleoedd gwirfoddoli cyfredol Cymru, ynghyd â’r rheini sy’n ymwneud yn benodol â’r Help Llaw Mawr.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Ymunwch â’r Help Llaw Mawr i ddenu mwy o wirfoddolwyr - CGGC (wcva.cymru)

 

Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld fod y busnesau y maen nhw’n ymwneud â nhw yn gwneud yr un fath.

Mae yna sawl ffordd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol ac ar yr un pryd gadw eu cwsmeriaid yn hapus. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gweithio gyda’ch cymuned leol | Drupal (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.