BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ystadegau Newydd yn dangos bod Cymru’n dal yn wlad ailgylchu

Mae Cymru wedi hen ennill ei phlwyf fel ailgylchwr gorau’r DU ac mae’r ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw (10 Tachwedd 2022) yn dangos ein bod yn rhagori ar y targed ailgylchu statudol o 64% gan daro 65.2%.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 biliwn mewn ailgylchu ers datganoli, ac mae hynny wedi helpu codi cyfraddau o’r 4.8% pitw ym 1998-99 i 65% a mwy heddiw.

Yn 2024-25, bydd y targed statudol yn cael ei godi i 70% a’r rhyfeddod yw bod pedwar awdurdod lleol eisoes wedi’i daro: Conwy, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Benfro.  

Mae un deg chwech o ddau ddeg dau cyngor lleol Cymru wedi rhagori ar y targed statudol o 64%, gyda deg awdurdod lleol yn dweud iddynt wneud yn well na llynedd.

Y gyfradd ailgylchu yw canran y gwastraff y mae awdurdod lleol yn ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio, a chan weithio fel Tîm Cymru, mae lefelau gwastraff aelwyd fesul person wedi gostwng ers llynedd.

Mae hyn yn hwb i amcanion Llywodraeth Cymru yn Mwy nag ailgylchu sydd wedi gosod targed i Gymru fod yn ddi-wastraff erbyn 2050 trwy fynd yn economi gylchol sy’n cadw adnoddau ar waith.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Ystadegau Newydd yn dangos bod Cymru’n dal yn wlad ailgylchu | LLYW.CYMRU

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.