BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr 2022

Mae’r Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr wedi’i chynllunio gan ddilyn amcan Gweinidogion i gynyddu amrywiaeth ymhlith aelodau o fyrddau cyrff cyhoeddus, a hynny’n unol â’r strategaeth a nodir yn ‘Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru – Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru’.

Y nod yw creu cyflenwad cadarn o ddarpar aelodau bwrdd, gan sicrhau bod unigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a phobl anabl o safon uchel a chanddynt arbenigedd a sgiliau da, ac sydd bron yn barod i ymgeisio, yn gallu cymryd rhan mewn rhaglen arweinyddiaeth lefel uchel ar gyfer datblygu byrddau.
Gan gymryd camau cadarnhaol i gynyddu cynrychiolaeth ar fyrddau cyhoeddus o grwpiau gwarchodedig penodol, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu dwy Raglen i Ddarpar Arweinwyr yn 2022 sydd wedi’u hanelu’n benodol at arweinwyr yng Nghymru sydd: 

  • Pobl anabl.
  • Unigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Nod y rhaglenni yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau arbenigol i arweinwyr i’w galluogi i gyflawni rôl aelod o fwrdd corff cyhoeddus.

Nod y rhaglen yw darparu’r canlynol i   gyfranogwyr:  

  • Dealltwriaeth o ddynameg a threfn bwrdd.
  • Dealltwriaeth well o waith cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
  • Y gallu i nodi a defnyddio’u sgiliau diriaethol i gael swydd ar fwrdd a llwyddo ynddi.

Mae lleoedd ar y rhaglen yn gyfyngedig. Os hoffech wneud cais, gofynnwn ichi gwblhau’r datganiad mynegi diddordeb, drwy ddilyn y ddolen Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr 2022 (office.com), erbyn 4 Mai 2022 fan bellaf.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.