BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru, y 'Dragon's Den' go iawn: Llywodraeth Cymru i gefnogi 1,200 o bobl ifanc i ddechrau eu busnes eu hunain

Heddiw (21 Mehefin 2022), cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi 1,200 o bobl ifanc i ddechrau eu busnes eu hunain fel rhan o gynlluniau i feithrin diwylliant newydd o entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru.

  • Gweinidog yr Economi yn ymrwymo £5 miliwn i feithrin diwylliant newydd o entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru
  • cynllunio rhan o genhadaeth Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn wlad lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol.

Wrth gyhoeddi £5 miliwn dros y tair blynedd nesaf i gyflawni'r agwedd hunangyflogaeth ar y Warant Uchelgeisiol i Bobl Ifanc, dywedodd y Gweinidog y bydd cefnogi entrepreneuriaid ifanc yn rhan hanfodol o wneud Cymru'n wlad lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol na fydd unrhyw genhedlaeth ar goll yng Nghymru o ganlyniad i bandemig Covid. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn rhoi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru. 

Mae'r buddsoddiad wedi'i gynnwys yn yr ymrwymiad o £20.9 miliwn y flwyddyn i ymestyn gwasanaeth hynod lwyddiannus Busnes Cymru y tu hwnt i ddiwedd cyllid yr UE yn 2023. 

Bydd y £5 miliwn yn adeiladu ar lwyddiant Syniadau Mawr Cymru, sy'n cael ei redeg gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n darparu dysgu drwy weithdai dan arweiniad entrepreneuriaid a rhwydwaith o Hyrwyddwyr i helpu i bontio o Addysg Bellach ac Uwch i fyd gwaith. 
Darperir cymorth arbenigol drwy: 

  • grant dechrau busnes newydd i bobl ifanc o hyd at £2,000 fesul busnes. Bydd hyn yn cefnogi 1,200 o bobl ifanc sy'n ddi-waith, wedi gadael addysg neu hyfforddiant yng nghyfnod cynnar busnes i ddod yn hunangyflogedig
  • cymorth cyn ac ar ôl cychwyn am flwyddyn, wedi'i gynllunio i helpu unigolion i oresgyn unrhyw rwystrau i ddechrau busnes, gan gynnwys cymorth cynghori busnes un-i-un, mentor a entrepreneuriaid, cynllunio  busnes a rheolaeth ariannol.

I ddarllen y cyhoeddiad yn llawn, ewch i LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.