BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyngor am Ynni i fusnesau Cymru

Yn sgil cynnydd mewn prisiau ynni, mae effeithlonrwydd ynni yn cael tipyn o sylw. Mae Busnes Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru, mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, wedi crynhoi rhai atebion effeithlonrwydd ynni 'cost isel a dim cost', i helpu busnesau ac unigolion i liniaru yn erbyn costau ynni cynyddol eleni:

  • Addasu amser, tymheredd ac ystafelloedd systemau gwresogi – Gall lleihau tymheredd y pwynt gosod 1ºC yn unig arbed hyd at 8% ar eich defnydd o ynni. Dylai diffodd gwres awr cyn i'ch busnes gau olygu bod y gwres yn cael ei gadw'n ddigonol ar gyfer yr awr 'olaf' honno. 
  • Bydd ystafell yn cynhesu ar yr un raddfa p’un a yw'r thermostat wedi'i osod i 20ºC neu 25ºC – felly dylech wrthsefyll yr ysfa i roi 'hwb' i'r tymheredd wrth droi eich gwres ymlaen.
  • Bydd inswleiddio eich ffenestri, waliau, drysau, to, simneiau a phibellau yn gywir yn lleihau eich defnydd o ynni, torri allyriadau ac arbed arian i chi ar filiau. Yn ôl CDP data, efallai y gallwch wneud yr arian rydych chi'n ei wario yn ôl mewn cyn lleied â blwyddyn, ac ar gyfartaledd, mae'r rhan fwyaf o gwmnïau yn cael eu harian yn ôl mewn 4 blynedd. Byddai trefnu arolwg ac archwiliad trylwyr yn helpu i nodi'r mesurau mwyaf priodol ar gyfer eich adeilad.
  • Newid i fylbiau LED – Gallai uwchraddio o oleuadau confensiynol i fylbiau LED sicrhau arbedion cost o hyd at 80% ar gyfer eich busnes ar gostau ynni goleuadau. Mae bylbiau LED yn defnyddio llai o ynni, yn para llawer yn hirach ac yn lleihau costau cynnal a chadw o'i gymharu â bylbiau arferol, sy'n golygu y byddwch yn gwneud y gost yn ôl, a mwy. Gallwch arbed mwy o arian drwy osod rheolaethau goleuo sy'n newid neu’n pylu goleuadau yn awtomatig.
  • Glanhau'r ffaniau, hidlyddion a dwythellau aer mewn unrhyw systemau trin aer. Gall hyn arwain at welliant o hyd at 60% mewn effeithlonrwydd.
  • Sicrhau bod eich drysau’n wrth-ddrafft, a dylech ailselio ffenestri er mwyn osgoi colli gwres yn ddiangen.
  • Gosod Mesurydd Deallus – Mae mesuryddion deallus yn eich galluogi i gymryd rheolaeth dros ddefnydd a chostau ynni eich busnes – a rhoi diwedd ar filiau amcangyfrifiedig a darlleniadau mesurydd llaw. Siaradwch â'ch cyflenwr ynni yn uniongyrchol i gael gwybod mwy am osod mesurydd deallus heb unrhyw gost ychwanegol a gwirio Smart Energy GB  i gael mwy o wybodaeth.
  • Cynnwys eich gweithwyr yn y broses, drwy ymgyrch ymwybyddiaeth ynni a fydd yn helpu pobl i wneud arbedion yn y gwaith ac yn y cartref – profwyd bod ymgyrchoedd effeithiol yn arbed 10%-15% ar filiau tanwydd, drwy addysgu pobl ynghylch manteision deall materion penodol fel rheolaethau adeiladu, gweithdrefnau cau a llai o ddefnydd o wresogyddion trydan annibynnol. 
  • Mae gwasanaethau ‘hyblygrwydd o ran galw’ yn dod yn fwyfwy cyffredin, gyda defnyddwyr yn gallu ymateb i'r galw gan y rhwydwaith i leihau'r defnydd neu gynyddu'r galw. Gan fod mwy o bobl bellach yn gweithio gartref, bydd trefnu diwrnodau tîm cyson yn y swyddfa a defnyddio mannau gwaith a rennir yn lleihau'r defnydd o ynni diangen. Dyma fwy o wybodaeth ar demand flexibility.
  • Mae Benthyciadau Busnes Gwyrdd bellach ar gael trwy Fanc Datblygu Cymru. Mae meini prawf a mwy o wybodaeth ar gael yma. Mae Busnes Cymru wedi sefydlu'r Addewid Twf Gwyrdd a gall busnesau fanteisio ar wybodaeth, gweithdai, cyngor ar-lein, dros y ffôn a rhithwir wyneb yn wyneb, yn ogystal â chymorth arbenigol.

Mae gan y dolenni canlynol wybodaeth ddefnyddiol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.