BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grant Rhwystrau Busnes Cymru

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Covid-19 wedi rhoi rhaglen o gymorth cyflogaeth a sgiliau ar waith i helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith.    

Mae rhan o’r rhaglen hon yn cynnwys cefnogaeth ychwanegol i unigolion sy’n ystyried bod yn hunangyflogedig. Yn ogystal â’r gwasanaeth cychwyn busnes presennol, mae grant ar gael i gefnogi unigolion di-waith sy’n wynebu mwy o rwystrau economaidd wrth ddechrau busnes. Bydd y grant dewisol hwn yn helpu hyd at 600 o unigolion i ddod yn hunangyflogedig neu i ddechrau busnes rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021.

Bydd y grant ar agor i bob unigolyn di-waith, ond rhoddir blaenoriaeth i’r rheini y mae Covid-19 wedi effeithio fwyaf arnynt:

  • Merched
  • Pobl anabl
  • Pobl o gefndiroedd BAME
  • Pobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg na hyfforddiant (NEETS) rhwng 18 a 24 oed neu ymadawyr Coleg neu Brifysgol yn 2019 neu 2020

Bydd unigolion yn gallu gwneud cais am hyd at £2,000 i gyfrannu tuag at gostau hanfodol dechrau busnes.

Rheolir y grant drwy wasanaeth Busnes Cymru.

Bydd y gronfa’n agor ar gyfer ceisiadau ar 1 Rhagfyr 2020.

Am ragor o fanylion, ewch i dudalennau Grant Rhwystrau Busnes Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.