BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru yn lansio Llyfryn Allforio newydd

Os yw eich busnes yn edrych ar gyfleodd allforio, neu os ydych eisoes yn allforio, mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn darparu amrywiaeth o offer a gwasanaethau sy’n gallu cefnogi busnesau Cymru ar eu taith allforio.

Yn ddiweddar fe wnaethom lansio ein Llyfryn Allforio, sy’n rhoi manylion am yr ystod gynhwysfawr o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yng Nghymru sydd am ddatblygu elfen allforio eu busnes.

Yn y llyfryn cewch wybodaeth am ein gwasanaethau digidol – y Parth Allforio lle bydd modd ichi gael mynediad at wybodaeth am ddechrau allforio, cyrsiau hyfforddi ar-lein a gweminarau, a dod o hyd i wybodaeth am ddigwyddiadau a theithiau masnach sydd ar y gweill. Mae’r Hwb Allforio yn darparu sawl dull i’ch cynorthwyo,  fel canfod cleientiaid posibl, archwilio marchnadoedd targed, a chyngor ar reoli cludiant. 

Mae’r Llyfryn Allforio hefyd yn darparu manylion am ddigwyddiadau yng Nghymru a digwyddiadau tramor, y mae cannoedd o gwmnïau yn elwa arnynt bob blwyddyn – felly edrychwch ar yr hyn sydd ar gael gennym a sicrhau nad ydych yn colli cyfle. 

Ar gyfer busnesau sydd yn chwilio am gymorth manylach, mae’r Llyfryn Allforio yn egluro sut y gallwch gael cymorth mwy pwrpasol fel y rhaglen Datblygu Masnach Ryngwladol (ITD), y rhaglen Cyfleoedd Masnach Ryngwladol (ITO), neu grant Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor (OBDV). 

Yn ogystal â rhoi manylion am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael, mae’r llyfryn allforio yn cynnwys astudiaethau achos gan gwmnïau sydd wedi manteisio ar gymorth Llywodraeth Cymru ac sydd wedi ychwanegu allforio yn llwyddiannus at eu model busnes – peidiwch â chymryd ein gair ni, ewch i weld sut mae cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi helpu nifer o fusnesau i dyfu. 

Pa bynnag gam o’r daith allforio y mae’ch busnes chi arno ar hyn bryd, mae’r offer gan Lywodraeth Cymru i’ch helpu i lwyddo. 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.